Hen Destament

Testament Newydd

Datguddiad 21:11-19 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

11. a gogoniant Duw ganddi. Yr oedd ei llewyrch fel llewyrch gem dra gwerthfawr, fel maen iasbis, yn disgleirio fel grisial.

12. Yr oedd iddi fur mawr ac uchel a deuddeg porth, ac wrth y pyrth ddeuddeg angel, ac enwau deuddeg llwyth plant Israel yn ysgrifenedig ar y pyrth.

13. Yr oedd tri phorth o du'r dwyrain, tri o du'r gogledd, tri o du'r de, a thri o du'r gorllewin.

14. I fur y ddinas yr oedd deuddeg carreg sylfaen, ac arnynt enwau deuddeg apostol yr Oen.

15. Yr oedd gan yr angel oedd yn siarad â mi ffon fesur o aur, i fesur y ddinas a'i phyrth a'i mur.

16. Yr oedd y ddinas wedi ei llunio'n betryal, ei hyd yn gyfartal â'i lled. Mesurodd ef y ddinas â'r ffon. Yr oedd yn ddwy fil, dau gant ac ugain o gilomedrau, a'i hyd a'i lled a'i huchder yn gyfartal.

17. A mesurodd ei mur. Yr oedd yn gant pedwar deg a phedwar cufydd, yn ôl y mesur dynol yr oedd yr angel yn mesur wrtho.

18. Iasbis oedd defnydd y mur, a'r ddinas ei hun yn aur pur, gloyw fel gwydr.

19. Yr oedd sylfeini mur y ddinas wedi eu haddurno â phob math o emau gwerthfawr: iasbis oedd y garreg sylfaen gyntaf, saffir yr ail, chalcedon y drydedd, emrallt y bedwaredd,

Darllenwch bennod gyflawn Datguddiad 21