Hen Destament

Testament Newydd

Datguddiad 20:6-14 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

6. Gwyn ei fyd a sanctaidd y sawl sydd â rhan yn yr atgyfodiad cyntaf; nid oes gan yr ail farwolaeth awdurdod arnynt, ond byddant yn offeiriaid Duw a Christ, a theyrnasant gydag ef am y mil blynyddoedd.

7. Pan ddaw'r mil blynyddoedd i ben, caiff Satan ei ollwng yn rhydd o'i garchar,

8. a daw allan i dwyllo'r cenhedloedd ym mhedwar ban y byd, sef lluoedd Gog a Magog, a'u casglu ynghyd i ryfel; byddant mor niferus â thywod y môr.

9. Cyrchasant dros wyneb y ddaear ac amgylchynu gwersyll y saint a'r ddinas sy'n annwyl gan Dduw. Ond disgynnodd tân o'r nef a'u difa'n llwyr;

10. a bwriwyd y diafol, twyllwr y cenhedloedd, i'r llyn tân a brwmstan, lle mae'r bwystfil hefyd a'r gau broffwyd. Yno cânt eu poenydio ddydd a nos byth bythoedd.

11. Gwelais orsedd fawr wen a'r Un oedd yn eistedd arni, hwnnw y ffoesai'r ddaear a'r nef o'i ŵydd a'u gadael heb le.

12. Gwelais y meirw, yn fawr a bach, yn sefyll o flaen yr orsedd; ac agorwyd llyfrau. Yna agorwyd llyfr arall, sef llyfr y bywyd; a barnwyd y meirw ar sail yr hyn oedd yn ysgrifenedig yn y llyfrau, yn ôl eu gweithredoedd.

13. Ildiodd y môr y meirw oedd ynddo, ac ildiodd Marwolaeth a Hades y rhai oedd ynddynt hwy, ac fe'u barnwyd, pob un yn ôl ei weithredoedd.

14. Bwriwyd Marwolaeth a Hades i'r llyn tân; dyma'r ail farwolaeth, sef y llyn tân.

Darllenwch bennod gyflawn Datguddiad 20