9. Yma y mae angen meddwl â gwelediad ganddo: y saith ben, saith mynydd ydynt, ac arnynt y mae'r wraig yn eistedd.
10. A saith brenin ydynt hefyd; y mae pump wedi syrthio, y mae un yn llywodraethu, nid yw'r llall wedi dod eto, a phan ddaw nid yw i aros ond am fyr amser.
11. A'r bwystfil oedd yn bod ac nad yw'n bod, yr wythfed yw ef, ac eto y mae'n un o'r saith, ac y mae'n mynd i ddistryw.
12. A'r deg corn a welaist, deg brenin ydynt, rhai na ddaethant eto i'r orsedd, ond fe dderbyniant awdurdod brenhinol am un awr ynghyd â'r bwystfil.
13. Y mae'r rhain yn unfryd ar drosglwyddo eu gallu a'u hawdurdod i'r bwystfil.
14. Fe ryfelant yn erbyn yr Oen, ac fe orchfyga'r Oen hwy, oherwydd y mae ef yn Arglwydd arglwyddi a Brenin brenhinoedd, a'i osgorddlu ef yw'r rhai a alwyd ac a etholwyd ac sy'n ffyddlon.”
15. A dywedodd wrthyf, “Y dyfroedd a welaist, lle'r oedd y butain yn eistedd, pobloedd a thyrfaoedd, cenhedloedd ac ieithoedd ydynt.
16. A'r deg corn a welaist, a'r bwystfil, byddant hwy'n casáu'r butain, ac yn ei gadael yn ddiffaith ac yn noeth. Bwytânt ei chnawd hi a'i llosgi'n ulw â thân.
17. Oherwydd rhoddodd Duw yn eu calonnau gyflawni ei fwriad ef, iddynt drosglwyddo'n unfryd eu teyrnas i'r bwystfil hyd nes cwblhau geiriau Duw.
18. Y wraig a welaist yw'r ddinas fawr sydd â'r frenhiniaeth ganddi ar frenhinoedd y ddaear.”