Hen Destament

Testament Newydd

Datguddiad 17:1-8 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Yna daeth un o'r saith angel yr oedd y saith ffiol ganddynt, a siarad â mi. “Tyrd yma,” meddai, “dangosaf iti'r farn ar y butain fawr sy'n eistedd ar lawer o ddyfroedd.

2. Gyda hi y puteiniodd brenhinoedd y ddaear, ac ar win ei phuteindra y meddwodd trigolion y ddaear.”

3. Yna cludodd fi yn yr Ysbryd i anialwch. Gwelais wraig yn eistedd ar fwystfil ysgarlad ag enwau cableddus drosto i gyd, a chanddo saith ben a deg corn.

4. Yr oedd y wraig wedi ei gwisgo â phorffor ac ysgarlad, a'i thecáu â thlysau aur, â gemau gwerthfawr ac â pherlau. Yn ei llaw yr oedd ganddi gwpan aur yn llawn o ffieidd-dra ac aflendid ei phuteindra hi.

5. Ac ar ei thalcen yr oedd enw wedi ei ysgrifennu, ac ystyr dirgel iddo: “Babilon fawr, mam puteiniaid a ffiaidd bethau'r ddaear.”

6. Gwelais y wraig yn feddw ar waed y saint ac ar waed tystion Iesu.Wrth edrych arni, rhyfeddais yn fawr iawn.

7. Gofynnodd yr angel imi, “Pam yr wyt yn rhyfeddu? Fe esboniaf fi iti ddirgelwch y wraig a'r bwystfil sy'n ei chario, y bwystfil y mae'r saith ben a'r deg corn ganddo.

8. Ynglŷn â'r bwystfil a welaist, yr oedd yn bod, ac nid yw'n bod, ond y mae ar fin codi o'r dyfnder a mynd i ddistryw. Bydd trigolion y ddaear, y rhai nad yw eu henwau'n ysgrifenedig yn llyfr y bywyd er seiliad y byd, yn rhyfeddu o weld y bwystfil; oherwydd yr oedd yn bod, ac nid yw'n bod, ac y mae i ddod.

Darllenwch bennod gyflawn Datguddiad 17