Hen Destament

Testament Newydd

Datguddiad 15:5-8 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

5. Ar ôl hyn edrychais, ac agorwyd teml pabell y dystiolaeth yn y nef.

6. Ac allan o'r deml daeth y saith angel yr oedd y saith bla ganddynt. Yr oeddent wedi eu gwisgo â lliain disgleirwych, a gwregys aur am eu dwyfron.

7. Yna rhoddodd un o'r pedwar creadur byw saith ffiol aur i'r saith angel, yn llawn o lid Duw, yr hwn sy'n byw byth bythoedd.

8. Llanwyd y deml â mwg gan ogoniant Duw a'i allu ef, ac ni allai neb fynd i mewn i'r deml hyd nes cwblhau saith bla y saith angel.

Darllenwch bennod gyflawn Datguddiad 15