Hen Destament

Testament Newydd

Datguddiad 15:1-3 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Gwelais arwydd arall yn y nef, un mawr a rhyfeddol: saith angel a chanddynt saith bla—y rhai olaf, oherwydd ynddynt hwy y cwblhawyd digofaint Duw.

2. Gwelais rywbeth tebyg i fôr o wydr, a thân yn gwau drwyddo, ac yn sefyll ar y môr o wydr gwelais orchfygwyr y bwystfil a'i ddelw a rhif ei enw, yn dal telynau Duw.

3. Yr oeddent yn canu cân Moses, gwas Duw, a chân yr Oen:“Mawr a rhyfeddol yw dy weithredoedd,O Arglwydd Dduw hollalluog;cyfiawn a gwir yw dy ffyrdd,O Frenin y cenhedloedd.

Darllenwch bennod gyflawn Datguddiad 15