Hen Destament

Testament Newydd

Datguddiad 14:18-20 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

18. A daeth angel arall allan o'r allor, ac yr oedd gan hwn awdurdod ar y tân. Galwodd â llais uchel ar yr hwn yr oedd y cryman miniog ganddo. “Bwrw dy gryman miniog,” meddai, “a chasgla rawnsypiau gwinwydden y ddaear, oherwydd aeddfedodd ei grawnwin.”

19. A dyma'r angel yn bwrw ei gryman i'r ddaear, yn casglu ffrwyth gwinwydden y ddaear ac yn ei daflu i winwryf mawr digofaint Duw.

20. Sathrwyd y gwinwryf y tu allan i'r ddinas, a llifodd gwaed o'r gwinwryf nes cyrraedd at ffrwynau'r ceffylau, am tua thri chan cilomedr o gwmpas.

Darllenwch bennod gyflawn Datguddiad 14