Hen Destament

Testament Newydd

Datguddiad 13:6-18 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

6. Agorodd ei enau mewn cabledd yn erbyn Duw, i gablu ei enw a'i breswylfa ef, sef y rhai sy'n preswylio yn y nef.

7. Rhoddwyd hawl iddo hefyd i ryfela yn erbyn y saint a'u gorchfygu hwy, a rhoddwyd iddo awdurdod ar bob llwyth a phobl ac iaith a chenedl.

8. Bydd holl drigolion y ddaear yn ei addoli ef, pob un nad yw ei enw'n ysgrifenedig er seiliad y byd yn llyfr bywyd yr Oen a laddwyd.

9. Os oes gan rywun glust, gwrandawed:

10. “Os yw rhywun i'w gaethiwo,fe'i caethiwir.Os yw rhywun i'w ladd â'r cleddyf,fe'i lleddir â'r cleddyf.”Yma y mae angen dyfalbarhad a ffydd y saint.

11. Gwelais fwystfil arall yn codi allan o'r ddaear, ac yr oedd ganddo ddau gorn fel oen, ond yn llefaru fel draig.

12. Yr oedd ganddo holl awdurdod y bwystfil cyntaf, i'w arfer ar ei ran. Gwnaeth i'r ddaear a'i thrigolion addoli'r bwystfil cyntaf, hwnnw yr iachawyd ei glwyf marwol.

13. Gwnaeth arwyddion mawr, gan beri hyd yn oed i dân ddisgyn o'r nef i'r ddaear gerbron pawb.

14. Twyllodd drigolion y ddaear trwy'r arwyddion y rhoddwyd iddo hawl i'w cyflawni ar ran y bwystfil, gan ddweud wrth drigolion y ddaear am wneud delw i'r bwystfil a glwyfwyd â'r cleddyf ac a ddaeth yn fyw.

15. Rhoddwyd iddo hawl i roi anadl i ddelw'r bwystfil, er mwyn i ddelw'r bwystfil lefaru a pheri lladd pob un nad addolai ddelw'r bwystfil.

16. Parodd y bwystfil i bawb, yn fach a mawr, yn gyfoethog a thlawd, yn rhydd a chaeth, dderbyn nod ar eu llaw dde neu ar eu talcen,

17. ac nid oedd neb i allu prynu neu werthu ond y sawl yr oedd ganddo'r nod, sef enw'r bwystfil neu rif ei enw.

18. Yma y mae angen doethineb: bydded i'r sawl sydd ganddo ddeall ystyried rhif y bwystfil, oherwydd rhif rhywun dynol ydyw; a'i rif ef yw chwe chant chwe deg a chwech.

Darllenwch bennod gyflawn Datguddiad 13