1. A gwelais fwystfil yn codi o'r môr, a chanddo ddeg corn a saith ben, ac ar ei gyrn ddeg diadem, ac ar bob un o'i bennau enw cableddus.
2. Yr oedd y bwystfil a welais yn debyg i lewpard, ond ei draed fel traed arth a'i enau fel genau llew. A rhoddodd y ddraig iddo ei gallu a'i gorsedd ac awdurdod mawr.
3. Yr oedd un o'i bennau fel pe bai wedi cael ergyd farwol, ond yr oedd ei glwyf marwol wedi ei iacháu. Aeth yr holl fyd ar ôl y bwystfil yn llawn rhyfeddod,
4. ac addoli'r ddraig am iddi roi'r awdurdod i'r bwystfil, ac addoli'r bwystfil hefyd gan ddweud, “Pwy sydd debyg i'r bwystfil, a phwy all ryfela yn ei erbyn ef?”
5. Rhoddwyd i'r bwystfil enau i draethu ymffrost a chabledd, a rhoddwyd iddo awdurdod i weithredu am ddeufis a deugain.