Hen Destament

Testament Newydd

Datguddiad 12:1-5 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Gwelwyd arwydd mawr yn y nef, gwraig wedi ei gwisgo â'r haul, a'r lleuad dan ei thraed a choron o ddeuddeg seren ar ei phen.

2. Yr oedd yn feichiog, ac yn gweiddi yn ei gwewyr a'i hing am gael esgor.

3. Yna gwelwyd arwydd arall yn y nef, draig fflamgoch fawr, a chanddi saith ben a deg corn, ac ar ei phennau saith diadem.

4. Ysgubodd ei chynffon draean o sêr y nef a'u bwrw i'r ddaear. Safodd y ddraig o flaen y wraig oedd ar fin esgor, er mwyn llyncu ei phlentyn ar ei eni.

5. Esgorodd hi ar blentyn gwryw, hwnnw sydd i lywodraethu'r holl genhedloedd â gwialen haearn; ond cipiwyd ei phlentyn at Dduw a'i orsedd ef.

Darllenwch bennod gyflawn Datguddiad 12