3. Yna gwaeddodd â llais uchel fel llew yn rhuo; a phan waeddodd, cododd y saith daran eu llef hwythau.
4. Ac wedi i'r saith daran lefaru, yr oeddwn ar fin ysgrifennu; ond clywais lais o'r nef yn dweud, “Gosod y pethau a lefarodd y saith daran dan sêl; paid â'u hysgrifennu.”
5. A dyma'r angel a welais yn sefyll ar y môr ac ar y tiryn codi ei law dde i'r nef
6. ac yn tyngu yn enw'r hwn sydd yn byw byth bythoedd,yr hwn a greodd y nef a'r pethau sydd ynddi, y tir a'r pethau sydd ynddo, a'r môr a'r pethau sydd ynddo. Dywedodd: “Ni bydd oedi mwy;
7. ond yn nyddiau sain yr utgorn y mae'r seithfed angel i'w seinio, bydd bwriad dirgel Duw wedi ei ddwyn i ben, yn unol â'r newyddion da a gyhoeddodd i'w weision, y proffwydi.”
8. Yna'r llais a glywais o'r nef, fe'i clywais eto'n llefaru wrthyf gan ddweud, “Dos a chymer y sgrôl sy'n agored yn llaw'r angel sy'n sefyll ar y môr ac ar y tir.”
9. Euthum at yr angel a dweud wrtho am roi'r sgrôl fechan imi, ac atebodd fi: “Cymer a bwyta hi; fe fydd hi'n chwerw i'th gylla, ond yn felys fel mêl yn dy enau.”
10. Cymerais y sgrôl fechan o law'r angel a'i bwyta hi, ac yr oedd yn felys fel mêl yn fy ngenau; ond wedi i mi ei bwyta aeth fy nghylla yn chwerw.
11. A dywedwyd wrthyf, “Rhaid iti broffwydo eto ynghylch pobloedd a chenhedloedd ac ieithoedd a brenhinoedd lawer.”