Hen Destament

Testament Newydd

Datguddiad 10:1-8 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Yna gwelais angel nerthol arall yn disgyn o'r nef wedi ei wisgo â chwmwl, ac enfys ar ei ben. Yr oedd ei wyneb fel yr haul, a'i goesau fel colofnau o dân.

2. Yr oedd yn dal yn ei law sgrôl fechan wedi ei hagor. Gosododd ei droed dde ar y môr a'r un chwith ar y tir.

3. Yna gwaeddodd â llais uchel fel llew yn rhuo; a phan waeddodd, cododd y saith daran eu llef hwythau.

4. Ac wedi i'r saith daran lefaru, yr oeddwn ar fin ysgrifennu; ond clywais lais o'r nef yn dweud, “Gosod y pethau a lefarodd y saith daran dan sêl; paid â'u hysgrifennu.”

5. A dyma'r angel a welais yn sefyll ar y môr ac ar y tiryn codi ei law dde i'r nef

6. ac yn tyngu yn enw'r hwn sydd yn byw byth bythoedd,yr hwn a greodd y nef a'r pethau sydd ynddi, y tir a'r pethau sydd ynddo, a'r môr a'r pethau sydd ynddo. Dywedodd: “Ni bydd oedi mwy;

7. ond yn nyddiau sain yr utgorn y mae'r seithfed angel i'w seinio, bydd bwriad dirgel Duw wedi ei ddwyn i ben, yn unol â'r newyddion da a gyhoeddodd i'w weision, y proffwydi.”

8. Yna'r llais a glywais o'r nef, fe'i clywais eto'n llefaru wrthyf gan ddweud, “Dos a chymer y sgrôl sy'n agored yn llaw'r angel sy'n sefyll ar y môr ac ar y tir.”

Darllenwch bennod gyflawn Datguddiad 10