Hen Destament

Testament Newydd

Datguddiad 1:1-9 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Dyma'r datguddiad a roddwyd gan Iesu Grist. Fe'i rhoddwyd iddo ef gan Dduw, er mwyn iddo ddangos i'w weision y pethau y mae'n rhaid iddynt ddigwydd ar fyrder. Fe'i gwnaeth yn hysbys trwy anfon ei angel at ei was Ioan.

2. Tystiodd yntau i air Duw ac i dystiolaeth Iesu Grist, trwy adrodd y cwbl a welodd.

3. Gwyn ei fyd y sawl sy'n darllen a'r rhai sy'n gwrando geiriau'r broffwydoliaeth hon ac yn cadw'r hyn sy'n ysgrifenedig ynddi. Oherwydd y mae'r amser yn agos.

4. Ioan at y saith eglwys yn Asia: gras a thangnefedd i chwi oddi wrth yr hwn sydd a'r hwn oedd a'r hwn sydd i ddod, ac oddi wrth y saith ysbryd sydd gerbron ei orsedd,

5. ac oddi wrth Iesu Grist, y tyst ffyddlon, y cyntafanedig oddi wrth y meirw a llywodraethwr brenhinoedd y ddaear.I'r hwn sydd yn ein caru ni ac a'n rhyddhaodd ni oddi wrth ein pechodau â'i waed,

6. ac a'n gwnaeth yn urdd frenhinol, yn offeiriaid i Dduw ei Dad, iddo ef y bo'r gogoniant a'r gallu byth bythoedd! Amen.

7. Wele, y mae'n dyfod gyda'r cymylau,a bydd pob llygad yn ei weld,ie, a'r rhai a'i trywanodd,a bydd holl lwythau'r ddaear yn galaru o'i blegid ef.Boed felly! Amen.

8. “Myfi yw Alffa ac Omega,” medd yr Arglwydd Dduw, yr hwn sydd a'r hwn oedd a'r hwn sydd i ddod, yr Hollalluog.

9. Yr oeddwn i, Ioan, eich brawd, sy'n cyfranogi gyda chwi o'r gorthrymder a'r frenhiniaeth a'r dyfalbarhad sydd i ni yn Iesu, ar yr ynys a elwir Patmos, ar gyfrif gair Duw a thystiolaeth Iesu.

Darllenwch bennod gyflawn Datguddiad 1