Hen Destament

Testament Newydd

Datguddiad 1:1-7 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Dyma'r datguddiad a roddwyd gan Iesu Grist. Fe'i rhoddwyd iddo ef gan Dduw, er mwyn iddo ddangos i'w weision y pethau y mae'n rhaid iddynt ddigwydd ar fyrder. Fe'i gwnaeth yn hysbys trwy anfon ei angel at ei was Ioan.

2. Tystiodd yntau i air Duw ac i dystiolaeth Iesu Grist, trwy adrodd y cwbl a welodd.

3. Gwyn ei fyd y sawl sy'n darllen a'r rhai sy'n gwrando geiriau'r broffwydoliaeth hon ac yn cadw'r hyn sy'n ysgrifenedig ynddi. Oherwydd y mae'r amser yn agos.

4. Ioan at y saith eglwys yn Asia: gras a thangnefedd i chwi oddi wrth yr hwn sydd a'r hwn oedd a'r hwn sydd i ddod, ac oddi wrth y saith ysbryd sydd gerbron ei orsedd,

5. ac oddi wrth Iesu Grist, y tyst ffyddlon, y cyntafanedig oddi wrth y meirw a llywodraethwr brenhinoedd y ddaear.I'r hwn sydd yn ein caru ni ac a'n rhyddhaodd ni oddi wrth ein pechodau â'i waed,

6. ac a'n gwnaeth yn urdd frenhinol, yn offeiriaid i Dduw ei Dad, iddo ef y bo'r gogoniant a'r gallu byth bythoedd! Amen.

7. Wele, y mae'n dyfod gyda'r cymylau,a bydd pob llygad yn ei weld,ie, a'r rhai a'i trywanodd,a bydd holl lwythau'r ddaear yn galaru o'i blegid ef.Boed felly! Amen.

Darllenwch bennod gyflawn Datguddiad 1