Hen Destament

Testament Newydd

Colosiaid 3:1-4 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Felly, os cyfodwyd chwi gyda Christ, ceisiwch y pethau sydd uchod, lle y mae Crist yn eistedd ar ddeheulaw Duw.

2. Rhowch eich bryd ar y pethau sydd uchod, nid ar y pethau sydd ar y ddaear.

3. Oherwydd buoch farw, ac y mae eich bywyd wedi ei guddio gyda Christ yn Nuw.

4. Pan amlygir Crist, eich bywyd chwi, yna fe gewch chwithau eich amlygu gydag ef mewn gogoniant.

Darllenwch bennod gyflawn Colosiaid 3