Hen Destament

Testament Newydd

Actau 9:4-11 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

4. Syrthiodd ar lawr, a chlywodd lais yn dweud wrtho, “Saul, Saul, pam yr wyt yn fy erlid i?”

5. Dywedodd yntau, “Pwy wyt ti, Arglwydd?” Ac ebe'r llais, “Iesu wyf fi, yr hwn yr wyt ti yn ei erlid.

6. Ond cod, a dos i mewn i'r ddinas, ac fe ddywedir wrthyt beth sy raid iti ei wneud.”

7. Yr oedd y dynion oedd yn cyd-deithio ag ef yn sefyll yn fud, yn clywed y llais ond heb weld neb.

8. Cododd Saul oddi ar lawr, ond er bod ei lygaid yn agored ni allai weld dim. Arweiniasant ef gerfydd ei law i mewn i Ddamascus.

9. Bu am dridiau heb weld, ac ni chymerodd na bwyd na diod.

10. Yr oedd rhyw ddisgybl yn Namascus o'r enw Ananias, a dywedodd yr Arglwydd wrtho ef mewn gweledigaeth, “Ananias.” Dywedodd yntau, “Dyma fi, Arglwydd.”

11. Ac meddai'r Arglwydd wrtho, “Cod, a dos i'r stryd a elwir y Stryd Union, a gofyn yn nhÅ· Jwdas am ddyn o Darsus o'r enw Saul; cei hyd iddo yno, yn gweddïo;

Darllenwch bennod gyflawn Actau 9