Hen Destament

Testament Newydd

Actau 9:36-39 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

36. Yr oedd yn Jopa ryw ddisgybl o'r enw Tabitha; ystyr hyn, o'i gyfieithu, yw Dorcas. Yr oedd hon yn llawn o weithredoedd da ac o elusennau.

37. Yr adeg honno fe glafychodd, a bu farw. Golchasant ei chorff a'i roi i orwedd mewn ystafell ar y llofft.

38. A chan fod Lyda yn agos i Jopa, pan glywodd y disgyblion fod Pedr yno, anfonasant ddau ddyn ato i ddeisyf arno, “Tyrd drosodd atom heb oedi.”

39. Cododd Pedr ac aeth gyda hwy. Wedi iddo gyrraedd, aethant ag ef i fyny i'r ystafell, a safodd yr holl wragedd gweddwon yn ei ymyl dan wylo a dangos y crysau a'r holl ddillad yr oedd Dorcas wedi eu gwneud pan oedd gyda hwy.

Darllenwch bennod gyflawn Actau 9