Hen Destament

Testament Newydd

Actau 9:32-37 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

32. Pan oedd Pedr yn mynd ar daith ac yn galw heibio i bawb, fe ddaeth i lawr at y saint oedd yn trigo yn Lyda.

33. Yno cafodd ryw ddyn o'r enw Aeneas, a oedd yn gorwedd ers wyth mlynedd ar ei fatras, wedi ei barlysu.

34. Dywedodd Pedr wrtho, “Aeneas, y mae Iesu Grist yn dy iacháu di; cod, a chyweiria dy wely.” Ac fe gododd ar unwaith.

35. Gwelodd holl drigolion Lyda a Saron ef, a throesant at yr Arglwydd.

36. Yr oedd yn Jopa ryw ddisgybl o'r enw Tabitha; ystyr hyn, o'i gyfieithu, yw Dorcas. Yr oedd hon yn llawn o weithredoedd da ac o elusennau.

37. Yr adeg honno fe glafychodd, a bu farw. Golchasant ei chorff a'i roi i orwedd mewn ystafell ar y llofft.

Darllenwch bennod gyflawn Actau 9