Hen Destament

Testament Newydd

Actau 8:8-12 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

8. A bu llawenydd mawr yn y ddinas honno.

9. Yr oedd rhyw ŵr o'r enw Simon eisoes yn y ddinas yn dewino ac yn synnu cenedl Samaria. Yr oedd yn dweud ei fod yn rhywun mawr,

10. ac yr oedd pawb, o fawr i fân, yn dal sylw arno ac yn dweud, “Hwn yw'r gallu dwyfol a elwir y Gallu Mawr.”

11. Yr oeddent yn dal sylw arno am ei fod ers cryn amser yn eu synnu â'i ddewiniaeth.

12. Ond wedi iddynt gredu Philip a'i newydd da am deyrnas Dduw ac enw Iesu Grist, dechreuwyd eu bedyddio hwy, yn wŷr a gwragedd.

Darllenwch bennod gyflawn Actau 8