Hen Destament

Testament Newydd

Actau 8:5-20 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

5. Aeth Philip i lawr i'r ddinas yn Samaria, a dechreuodd gyhoeddi'r Meseia iddynt.

6. Yr oedd y tyrfaoedd yn dal yn unfryd ar eiriau Philip, wrth glywed a gweld yr arwyddion yr oedd yn eu gwneud;

7. oherwydd yr oedd ysbrydion aflan yn dod allan o lawer oedd wedi eu meddiannu ganddynt, gan weiddi â llais uchel, ac iachawyd llawer o rai wedi eu parlysu ac o rai cloff.

8. A bu llawenydd mawr yn y ddinas honno.

9. Yr oedd rhyw ŵr o'r enw Simon eisoes yn y ddinas yn dewino ac yn synnu cenedl Samaria. Yr oedd yn dweud ei fod yn rhywun mawr,

10. ac yr oedd pawb, o fawr i fân, yn dal sylw arno ac yn dweud, “Hwn yw'r gallu dwyfol a elwir y Gallu Mawr.”

11. Yr oeddent yn dal sylw arno am ei fod ers cryn amser yn eu synnu â'i ddewiniaeth.

12. Ond wedi iddynt gredu Philip a'i newydd da am deyrnas Dduw ac enw Iesu Grist, dechreuwyd eu bedyddio hwy, yn wŷr a gwragedd.

13. Credodd Simon ei hun hefyd, ac wedi ei fedyddio yr oedd yn glynu'n ddyfal wrth Philip; wrth weld arwyddion a gweithredoedd nerthol yn cael eu cyflawni, yr oedd yn synnu.

14. Pan glywodd yr apostolion yn Jerwsalem fod Samaria wedi derbyn gair Duw, anfonasant atynt Pedr ac Ioan,

15. ac wedi iddynt hwy ddod i lawr yno, gweddïasant drostynt ar iddynt dderbyn yr Ysbryd Glân,

16. oherwydd nid oedd eto wedi disgyn ar neb ohonynt, dim ond eu bod wedi eu bedyddio i enw yr Arglwydd Iesu.

17. Yna rhoes Pedr ac Ioan eu dwylo arnynt, a derbyniasant yr Ysbryd Glân.

18. Pan welodd Simon mai trwy arddodiad dwylo'r apostolion y rhoddid yr Ysbryd, cynigiodd arian iddynt,

19. a dweud, “Rhowch yr awdurdod yma i minnau, fel y bydd i bwy bynnag y rhof fy nwylo arno dderbyn yr Ysbryd Glân.”

20. Ond dywedodd Pedr wrtho, “Melltith arnat ti a'th arian, am iti feddwl meddiannu rhodd Duw trwy dalu amdani!

Darllenwch bennod gyflawn Actau 8