Hen Destament

Testament Newydd

Actau 8:20-25 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

20. Ond dywedodd Pedr wrtho, “Melltith arnat ti a'th arian, am iti feddwl meddiannu rhodd Duw trwy dalu amdani!

21. Nid oes iti ran na chyfran yn hyn o beth, oblegid nid yw dy galon yn uniawn yng ngolwg Duw.

22. Felly edifarha am y drygioni hwn o'r eiddot, ac erfyn ar yr Arglwydd, i weld a faddeuir i ti feddylfryd dy galon,

23. oherwydd rwy'n gweld dy fod yn llawn chwerwder ac yn gaeth i ddrygioni.”

24. Atebodd Simon, “Gweddïwch chwi drosof fi ar yr Arglwydd, fel na ddaw arnaf ddim o'r pethau a ddywedsoch.”

25. Wedi iddynt dystiolaethu a llefaru gair yr Arglwydd, cychwynasant hwythau yn ôl i Jerwsalem, a chyhoeddi'r newydd da i lawer o bentrefi'r Samariaid.

Darllenwch bennod gyflawn Actau 8