5. Eto ni roes iddo etifeddiaeth ynddi, naddo, dim lled troed. Addo a wnaeth ei rhoi iddo ef i'w meddiannu, ac i'w ddisgynyddion ar ei ôl, ac yntau heb blentyn.
6. Llefarodd Duw fel hyn: ‘Bydd ei ddisgynyddion yn alltudion mewn gwlad ddieithr, a chânt eu caethiwo a'u cam-drin am bedwar can mlynedd.
7. Ac fe ddof fi â barn ar y genedl y byddant yn ei gwasanaethu,’ meddai Duw, ‘ac wedi hynny dônt allan, ac addolant fi yn y lle hwn.’
8. A rhoddodd iddo gyfamod enwaediad. Felly, wedi geni iddo Isaac, enwaedodd arno yr wythfed dydd. Ac i Isaac ganwyd Jacob, ac i Jacob y deuddeg patriarch.”
9. “Cenfigennodd y patriarchiaid wrth Joseff a'i werthu i'r Aifft. Ond yr oedd Duw gydag ef,
10. ac achubodd ef o'i holl gyfyngderau, a rhoddodd iddo ffafr a doethineb yng ngolwg Pharo brenin yr Aifft, a gosododd yntau ef yn llywodraethwr dros yr Aifft a thros ei holl dŷ.
11. Daeth newyn ar yr Aifft i gyd ac ar Ganaan; yr oedd yn gyfyngder mawr, ac ni allai ein hynafiaid gael lluniaeth.
12. Ond clywodd Jacob fod bwyd yn yr Aifft, ac anfonodd ein tadau yno y tro cyntaf.
13. Yr ail dro fe adnabuwyd Joseff gan ei frodyr, a daeth tylwyth Joseff yn hysbys i Pharo.