45. Ac wedi ei derbyn yn eu tro, daeth ein hynafiaid â hi yma gyda Josua, wrth iddynt oresgyn y cenhedloedd a yrrodd Duw allan o'u blaenau. Ac felly y bu hyd ddyddiau Dafydd.
46. Cafodd ef ffafr gerbron Duw, a deisyfodd am gael tabernacl i dŷ Jacob.
47. Eithr Solomon oedd yr un a adeiladodd dŷ iddo.
48. Ond nid yw'r Goruchaf yn trigo mewn tai o waith llaw; fel y mae'r proffwyd yn dweud:
49. “ ‘Y nefoedd yw fy ngorsedd,a'r ddaear yw troedfainc fy nhraed.Pa fath dŷ a adeiladwch imi, medd yr Arglwydd;ble fydd fy ngorffwysfa?
50. Onid fy llaw i a wnaeth y pethau hyn oll?’
51. “Chwi rai gwargaled a dienwaededig o galon a chlust, yr ydych chwi yn wastad yn gwrthwynebu'r Ysbryd Glân; fel eich hynafiaid, felly chwithau.
52. P'run o'r proffwydi na fu'ch hynafiaid yn ei erlid? Ie, lladdasant y rhai a ragfynegodd ddyfodiad yr Un Cyfiawn. A chwithau yn awr, bradwyr a llofruddion fuoch iddo ef,
53. chwi y rhai a dderbyniodd y Gyfraith yn ôl cyfarwyddyd angylion, ac eto ni chadwasoch mohoni.”
54. Wrth glywed y pethau hyn aethant yn ffyrnig yn eu calonnau, ac ysgyrnygu eu dannedd arno.
55. Yn llawn o'r Ysbryd Glân, syllodd Steffan tua'r nef a gwelodd ogoniant Duw, ac Iesu'n sefyll ar ddeheulaw Duw,
56. a dywedodd, “Edrychwch, rwy'n gweld y nefoedd yn agored, a Mab y Dyn yn sefyll ar ddeheulaw Duw.”