Hen Destament

Testament Newydd

Actau 7:42-59 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

42. A throes Duw ymaith, a'u rhoi i fyny i addoli sêr y nef, fel y mae'n ysgrifenedig yn llyfr y proffwydi:“ ‘A offrymasoch i mi laddedigion ac aberthauam ddeugain mlynedd yn yr anialwch, dŷ Israel?

43. Na yn wir, dyrchafasoch babell Moloch,a seren eich duw Raiffan,y delwau a wnaethoch i'w haddoli.Alltudiaf chwi y tu hwnt i Fabilon.’

44. “Yr oedd pabell y dystiolaeth gan ein hynafiaid yn yr anialwch, fel y gorchmynnodd yr hwn a lefarodd wrth Moses ei fod i'w llunio yn ôl y patrwm yr oedd wedi ei weld.

45. Ac wedi ei derbyn yn eu tro, daeth ein hynafiaid â hi yma gyda Josua, wrth iddynt oresgyn y cenhedloedd a yrrodd Duw allan o'u blaenau. Ac felly y bu hyd ddyddiau Dafydd.

46. Cafodd ef ffafr gerbron Duw, a deisyfodd am gael tabernacl i dŷ Jacob.

47. Eithr Solomon oedd yr un a adeiladodd dŷ iddo.

48. Ond nid yw'r Goruchaf yn trigo mewn tai o waith llaw; fel y mae'r proffwyd yn dweud:

49. “ ‘Y nefoedd yw fy ngorsedd,a'r ddaear yw troedfainc fy nhraed.Pa fath dŷ a adeiladwch imi, medd yr Arglwydd;ble fydd fy ngorffwysfa?

50. Onid fy llaw i a wnaeth y pethau hyn oll?’

51. “Chwi rai gwargaled a dienwaededig o galon a chlust, yr ydych chwi yn wastad yn gwrthwynebu'r Ysbryd Glân; fel eich hynafiaid, felly chwithau.

52. P'run o'r proffwydi na fu'ch hynafiaid yn ei erlid? Ie, lladdasant y rhai a ragfynegodd ddyfodiad yr Un Cyfiawn. A chwithau yn awr, bradwyr a llofruddion fuoch iddo ef,

53. chwi y rhai a dderbyniodd y Gyfraith yn ôl cyfarwyddyd angylion, ac eto ni chadwasoch mohoni.”

54. Wrth glywed y pethau hyn aethant yn ffyrnig yn eu calonnau, ac ysgyrnygu eu dannedd arno.

55. Yn llawn o'r Ysbryd Glân, syllodd Steffan tua'r nef a gwelodd ogoniant Duw, ac Iesu'n sefyll ar ddeheulaw Duw,

56. a dywedodd, “Edrychwch, rwy'n gweld y nefoedd yn agored, a Mab y Dyn yn sefyll ar ddeheulaw Duw.”

57. Rhoesant hwythau waedd uchel, a chau eu clustiau, a rhuthro'n unfryd arno,

58. a'i fwrw allan o'r ddinas, a mynd ati i'w labyddio. Dododd y tystion eu dillad wrth draed dyn ifanc o'r enw Saul.

59. Ac wrth iddynt ei labyddio, yr oedd Steffan yn galw, “Arglwydd Iesu, derbyn fy ysbryd.”

Darllenwch bennod gyflawn Actau 7