Hen Destament

Testament Newydd

Actau 7:19-31 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

19. Bu hwn yn ddichellgar wrth ein cenedl ni, gan gam-drin ein hynafiaid, a pheri bwrw eu babanod allan fel na chedwid mohonynt yn fyw.

20. Y pryd hwnnw y ganwyd Moses, ac yr oedd yn blentyn cymeradwy yng ngolwg Duw. Magwyd ef am dri mis yn nhÅ· ei dad,

21. a phan fwriwyd ef allan, cymerodd merch Pharo ef ati, a'i fagu yn fab iddi hi ei hun.

22. Hyfforddwyd Moses yn holl ddoethineb yr Eifftwyr, ac yr oedd yn nerthol yn ei eiriau a'i weithredoedd.

23. “Yn ystod ei ddeugeinfed flwyddyn, cododd awydd arno i ymweld â'i gyd-genedl, plant Israel.

24. Pan welodd un ohonynt yn cael cam, fe'i hamddiffynnodd, a dialodd gam y dyn oedd dan orthrwm trwy daro'r Eifftiwr.

25. Yr oedd yn tybio y byddai ei bobl ei hun yn deall fod Duw trwyddo ef yn rhoi gwaredigaeth iddynt. Ond nid oeddent yn deall.

26. Trannoeth daeth ar draws dau ohonynt yn ymladd, a cheisiodd eu cymodi a chael heddwch, gan ddweud, ‘Ddynion, brodyr ydych; pam y gwnewch gam â'ch gilydd?’

27. Ond dyma'r un oedd yn gwneud cam â'i gymydog yn ei wthio i ffwrdd, gan ddweud, ‘Pwy a'th benododd di yn llywodraethwr ac yn farnwr arnom ni?

28. A wyt ti am fy lladd i fel y lleddaist yr Eifftiwr ddoe?’

29. A ffodd Moses ar y gair hwn, ac aeth yn alltud yn nhir Midian, lle y ganwyd iddo ddau fab.

30. “Ymhen deugain mlynedd, fe ymddangosodd iddo yn anialwch Mynydd Sinai angel mewn fflam dân mewn perth.

31. Pan welodd Moses ef, bu ryfedd ganddo'r olygfa. Wrth iddo nesu i edrych yn fanwl, daeth llais yr Arglwydd:

Darllenwch bennod gyflawn Actau 7