28. Wedi plymio, cawsant ddyfnder o ugain gwryd, ac ymhen ychydig, plymio eilwaith a chael pymtheg gwryd.
29. Gan fod arnynt ofn inni efallai gael ein bwrw ar leoedd creigiog, taflasant bedair angor o'r starn, a deisyf am iddi ddyddio.
30. Dechreuodd y morwyr geisio dianc o'r llong, a gollwng y bad i'r dŵr, dan esgus mynd i osod angorion o'r pen blaen.
31. Ond dywedodd Paul wrth y canwriad a'r milwyr, “Os na fydd i'r rhain aros yn y llong, ni allwch chwi gael eich achub.”
32. Yna fe dorrodd y milwyr raffau'r bad, a gadael iddo gwympo ymaith.
33. Pan oedd hi ar ddyddio, dechreuodd Paul annog pawb i gymryd bwyd, gan ddweud, “Heddiw yw'r pedwerydd dydd ar ddeg i chwi fod yn disgwyl yn bryderus, a heb gymryd tamaid o ddim i'w fwyta.
34. Felly yr wyf yn eich annog i gymryd bwyd, oherwydd y mae eich gwaredigaeth yn dibynnu ar hynny; ni chollir blewyn oddi ar ben yr un ohonoch.”
35. Wedi iddo ddweud hyn, cymerodd fara, a diolchodd i Dduw yng ngŵydd pawb, a'i dorri a dechrau bwyta.
36. Cododd pawb eu calon, a hwythau hefyd yn cymryd bwyd.
37. Rhwng pawb yr oedd dau gant saith deg a chwech ohonom yn y llong.
38. Wedi iddynt gael digon o fwyd, dechreusant ysgafnhau'r llong trwy daflu'r ŷd allan i'r môr.