Hen Destament

Testament Newydd

Actau 27:12-21 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

12. A chan fod y porthladd yn anghymwys i fwrw'r gaeaf ynddo, yr oedd y rhan fwyaf o blaid hwylio oddi yno, yn y gobaith y gallent rywfodd gyrraedd Phenix, porthladd yn Creta yn wynebu'r de orllewin a'r gogledd-orllewin, a bwrw'r gaeaf yno.

13. Pan gododd gwynt ysgafn o'r de, tybiasant fod eu bwriad o fewn eu cyrraedd. Codasant angor, a dechrau hwylio gyda glannau Creta, yn agos i'r tir.

14. Ond cyn hir, rhuthrodd gwynt tymhestlog, Ewraculon fel y'i gelwir, i lawr o'r tir.

15. Cipiwyd y llong ymaith, a chan na ellid dal ei thrwyn i'r gwynt, bu raid ildio, a chymryd ein gyrru o'i flaen.

16. Wedi rhedeg dan gysgod rhyw ynys fechan a elwir Cawda, llwyddasom, trwy ymdrech, i gael y bad dan reolaeth.

17. Codasant ef o'r dŵr, a mynd ati â chyfarpar i amwregysu'r llong; a chan fod arnynt ofn cael eu bwrw ar y Syrtis, tynasant y gêr hwylio i lawr, a mynd felly gyda'r lli.

18. Trannoeth, gan ei bod hi'n dal yn storm enbyd arnom, dyma ddechrau taflu'r llwyth i'r môr;

19. a'r trydydd dydd, lluchio gêr y llong i ffwrdd â'u dwylo eu hunain.

20. Ond heb na haul na sêr i'w gweld am ddyddiau lawer, a'r storm fawr yn dal i'n llethu, yr oedd pob gobaith am gael ein hachub bellach yn diflannu.

21. Yna, wedi iddynt fod heb fwyd am amser hir, cododd Paul yn eu canol hwy a dweud: “Ddynion, dylasech fod wedi gwrando arnaf fi, a pheidio â hwylio o Creta, ac arbed y difrod hwn a'r golled.

Darllenwch bennod gyflawn Actau 27