Hen Destament

Testament Newydd

Actau 27:1-13 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Pan benderfynwyd ein bod i hwylio i'r Eidal, trosglwyddwyd Paul a rhai carcharorion eraill i ofal canwriad o'r enw Jwlius, o'r fintai Ymerodrol.

2. Aethom ar fwrdd llong o Adramytium oedd ar hwylio i'r porthladdoedd ar hyd glannau Asia, a chodi angor. Yr oedd Aristarchus, Macedoniad o Thesalonica, gyda ni.

3. Trannoeth, cyraeddasom Sidon. Bu Jwlius yn garedig wrth Paul, a rhoddodd ganiatâd iddo fynd at ei gyfeillion, iddynt ofalu amdano.

4. Oddi yno, wedi codi angor, hwyliasom yng nghysgod Cyprus, am fod y gwyntoedd yn ein herbyn;

5. ac wedi inni groesi'r môr sydd gyda glannau Cilicia a Pamffylia, cyraeddasom Myra yn Lycia.

6. Yno cafodd y canwriad long o Alexandria oedd yn hwylio i'r Eidal, a gosododd ni arni.

7. Buom am ddyddiau lawer yn hwylio'n araf, ac yn cael trafferth i gyrraedd i ymyl Cnidus. Gan fod y gwynt yn dal i'n rhwystro, hwyliasom i gysgod Creta gyferbyn â Salmone,

8. a thrwy gadw gyda'r tir, daethom â chryn drafferth i le a elwid Porthladdoedd Teg, nid nepell o dref Lasaia.

9. Gan fod cryn amser wedi mynd heibio, a bod morio bellach yn beryglus, oherwydd yr oedd hyd yn oedd gŵyl yr Ympryd drosodd eisoes, rhoes Paul y cyngor hwn iddynt:

10. “Ddynion, rwy'n gweld y bydd mynd ymlaen â'r fordaith yma yn sicr o beri difrod a cholled enbyd, nid yn unig i'r llwyth ac i'r llong, ond i'n bywydau ni hefyd.”

11. Ond yr oedd y canwriad yn rhoi mwy o goel ar y peilot a meistr y llong nag ar eiriau Paul.

12. A chan fod y porthladd yn anghymwys i fwrw'r gaeaf ynddo, yr oedd y rhan fwyaf o blaid hwylio oddi yno, yn y gobaith y gallent rywfodd gyrraedd Phenix, porthladd yn Creta yn wynebu'r de orllewin a'r gogledd-orllewin, a bwrw'r gaeaf yno.

13. Pan gododd gwynt ysgafn o'r de, tybiasant fod eu bwriad o fewn eu cyrraedd. Codasant angor, a dechrau hwylio gyda glannau Creta, yn agos i'r tir.

Darllenwch bennod gyflawn Actau 27