Hen Destament

Testament Newydd

Actau 25:6-20 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

6. Arhosodd Ffestus gyda hwy am wyth neu ddeg diwrnod ar y mwyaf. Yna aeth i lawr i Gesarea, a thrannoeth cymerodd ei le yn y llys a gorchymyn dod â Paul gerbron.

7. Pan ymddangosodd Paul, safodd yr Iddewon oedd wedi dod i lawr o Jerwsalem o'i amgylch, gan ddwyn llawer o gyhuddiadau difrifol yn ei erbyn.

8. Ond ni allent eu profi yn wyneb yr hyn a ddywedodd Paul yn ei amddiffyniad: “Nid wyf fi wedi troseddu o gwbl, nac yn erbyn Cyfraith yr Iddewon, nac yn erbyn y deml, nac yn erbyn Cesar.”

9. Ond gan fod Ffestus yn awyddus i ennill ffafr yr Iddewon, gofynnodd i Paul, “A wyt ti'n fodlon mynd i fyny i Jerwsalem a chael dy farnu yno ger fy mron i am y pethau hyn?”

10. Dywedodd Paul, “Yr wyf fi'n sefyll gerbron llys Cesar, lle y dylid fy marnu. Ni throseddais o gwbl yn erbyn yr Iddewon, fel y gwyddost ti yn eithaf da.

11. Fodd bynnag, os wyf yn droseddwr, ac os wyf wedi gwneud rhywbeth sy'n haeddu marwolaeth, nid wyf yn ceisio osgoi dedfryd marwolaeth. Ond os yw cyhuddiadau'r bobl hyn yn fy erbyn yn ddisail, ni all neb fy nhrosglwyddo iddynt fel ffafr. Yr wyf yn apelio at Gesar.”

12. Yna, wedi iddo drafod y mater â'i gynghorwyr, atebodd Ffestus: “At Gesar yr wyt wedi apelio; at Gesar y cei fynd.”

13. Ymhen rhai dyddiau daeth y Brenin Agripa a Bernice i lawr i Gesarea i groesawu Ffestus.

14. A chan eu bod yn treulio dyddiau lawer yno, cyflwynodd Ffestus achos Paul i sylw'r brenin. “Y mae yma ddyn,” meddai, “wedi ei adael gan Ffelix yn garcharor,

15. a phan oeddwn yn Jerwsalem gosododd y prif offeiriaid a henuriaid yr Iddewon ei achos ef ger fy mron, a gofyn am ei gondemnio.

16. Atebais hwy nad oedd yn arfer gan Rufeinwyr drosglwyddo unrhyw un fel ffafr cyn bod y cyhuddedig yn dod wyneb yn wyneb â'i gyhuddwyr, ac yn cael cyfle i'w amddiffyn ei hun yn erbyn y cyhuddiad.

17. Felly, pan ddaethant ynghyd yma, heb oedi dim cymerais fy lle drannoeth yn y llys, a gorchymyn dod â'r dyn gerbron.

18. Pan gododd ei gyhuddwyr i'w erlyn, nid oeddent yn ei gyhuddo o'r un o'r troseddau a ddisgwyliwn i.

19. Ond rhyw ddadleuon oedd ganddynt ag ef ynghylch eu crefydd eu hunain, ac ynghylch rhyw Iesu oedd wedi marw, ond y mynnai Paul ei fod yn fyw.

20. A chan fy mod mewn penbleth ynglŷn â'r ddadl ar y pethau hyn, gofynnais iddo a oedd yn dymuno mynd i Jerwsalem, a chael ei farnu amdanynt yno.

Darllenwch bennod gyflawn Actau 25