Hen Destament

Testament Newydd

Actau 24:17-27 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

17. Ac ar ôl amryw flynyddoedd, deuthum i wneud elusennau i'm cenedl ac i offrymu aberthau,

18. ac wrthi'n gwneud hyn y cawsant fi, wedi fy mhureiddio, yn y deml. Nid oedd yno na thyrfa na therfysg.

19. Ond yr oedd yno ryw Iddewon o Asia, a hwy a ddylai fod yma ger dy fron di i'm cyhuddo i, a chaniatáu fod ganddynt rywbeth yn fy erbyn;

20. neu dyweded y rhain yma pa gamwedd a gawsant ynof pan sefais gerbron y Sanhedrin,

21. heblaw'r un ymadrodd hwnnw a waeddais pan oeddwn yn sefyll yn eu plith: ‘Ynghylch atgyfodiad y meirw yr wyf ar fy mhrawf heddiw ger eich bron.’ ”

22. Yr oedd gan Ffelix wybodaeth led fanwl am y Ffordd, a gohiriodd yr achos, gan ddweud, “Pan ddaw Lysias y capten i lawr, rhoddaf ddyfarniad yn eich achos.”

23. Gorchmynnodd i'r canwriad fod Paul i'w gadw dan warchodaeth, ac i gael peth rhyddid, ac nad oeddent i rwystro neb o'i gyfeillion rhag gweini arno.

24. Rhai dyddiau wedi hynny, daeth Ffelix yno gyda'i wraig Drwsila, a oedd yn Iddewes. Fe anfonodd am Paul, a gwrandawodd ar ei eiriau ynghylch ffydd yng Nghrist Iesu.

25. Ond wrth iddo drafod cyfiawnder a hunanddisgyblaeth a'r Farn oedd i ddod, daeth ofn ar Ffelix a dywedodd, “Dyna ddigon am y tro; anfonaf amdanat eto pan gaf gyfle.”

26. Yr un pryd, yr oedd yn gobeithio cael cildwrn gan Paul, ac oherwydd hynny byddai'n anfon amdano yn lled fynych, ac yn sgwrsio ag ef.

27. Aeth dwy flynedd heibio, a dilynwyd Ffelix gan Porcius Ffestus; a chan ei fod yn awyddus i ennill ffafr yr Iddewon, gadawodd Ffelix Paul yn garcharor.

Darllenwch bennod gyflawn Actau 24