Hen Destament

Testament Newydd

Actau 24:11-22 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

11. Oherwydd gelli gael sicrwydd nad oes dim mwy na deuddeg diwrnod er pan euthum i fyny i addoli yn Jerwsalem.

12. Ni chawsant mohonof yn dadlau â neb nac yn casglu tyrfa, yn y deml nac yn y synagogau nac yn y ddinas,

13. ac ni allant brofi i ti y cyhuddiadau y maent yn eu dwyn yn awr yn fy erbyn i.

14. Ond yr wyf yn cyfaddef hyn i ti, mai yn null y Ffordd, a alwant hwy yn sect, felly yr wyf yn addoli Duw ein hynafiaid. Yr wyf yn credu pob peth sydd yn ôl y Gyfraith ac sy'n ysgrifenedig yn y proffwydi,

15. ac yn gobeithio yn Nuw—ac y maent hwy eu hunain yn derbyn y gobaith hwn, y bydd atgyfodiad i'r cyfiawn ac i'r anghyfiawn.

16. Oherwydd hyn, yr wyf finnau hefyd yn ymroi i gadw cydwybod lân gerbron Duw a dynion yn wastad.

17. Ac ar ôl amryw flynyddoedd, deuthum i wneud elusennau i'm cenedl ac i offrymu aberthau,

18. ac wrthi'n gwneud hyn y cawsant fi, wedi fy mhureiddio, yn y deml. Nid oedd yno na thyrfa na therfysg.

19. Ond yr oedd yno ryw Iddewon o Asia, a hwy a ddylai fod yma ger dy fron di i'm cyhuddo i, a chaniatáu fod ganddynt rywbeth yn fy erbyn;

20. neu dyweded y rhain yma pa gamwedd a gawsant ynof pan sefais gerbron y Sanhedrin,

21. heblaw'r un ymadrodd hwnnw a waeddais pan oeddwn yn sefyll yn eu plith: ‘Ynghylch atgyfodiad y meirw yr wyf ar fy mhrawf heddiw ger eich bron.’ ”

22. Yr oedd gan Ffelix wybodaeth led fanwl am y Ffordd, a gohiriodd yr achos, gan ddweud, “Pan ddaw Lysias y capten i lawr, rhoddaf ddyfarniad yn eich achos.”

Darllenwch bennod gyflawn Actau 24