Hen Destament

Testament Newydd

Actau 24:1-3 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Pum diwrnod yn ddiweddarach, daeth Ananias yr archoffeiriad i lawr gyda rhai henuriaid, a dadleuydd o'r enw Tertulus, a gosodasant gerbron y rhaglaw eu hachos yn erbyn Paul.

2. Galwyd yntau gerbron, a dechreuodd Tertulus ei erlyniad, gan ddweud:

3. “Trwot ti yr ydym yn mwynhau cyflawnder o heddwch, a thrwy dy ddarbodaeth y mae gwelliannau yn dod i ran y genedl hon ym mhob modd ac ym mhob man. Yr ydym yn eu derbyn, ardderchocaf Ffelix, â phob diolchgarwch.

Darllenwch bennod gyflawn Actau 24