Hen Destament

Testament Newydd

Actau 23:21-29 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

21. Yn awr, paid â gwrando arnynt, oherwydd y mae mwy na deugain o'u dynion yn aros i ymosod arno; y maent wedi mynd ar eu llw i beidio â bwyta nac yfed nes y byddant wedi ei ladd ef, ac y maent yn barod yn awr, yn disgwyl am dy ganiatâd di.”

22. Yna anfonodd y capten y llanc ymaith, ar ôl gorchymyn iddo, “Paid â dweud wrth neb dy fod wedi rhoi gwybod imi am hyn.”

23. Yna galwodd ato ddau ganwriad arbennig, a dweud wrthynt, “Paratowch ddau gant o filwyr i fynd i Gesarea, a saith deg o wŷr meirch a dau gan picellwr, erbyn naw o'r gloch y nos.

24. Darparwch hefyd anifeiliaid, iddynt osod Paul arnynt a mynd ag ef yn ddiogel at Ffelix, y rhaglaw.”

25. Ac ysgrifennodd lythyr i'r perwyl hwn:

26. “Clawdius Lysias at yr Ardderchocaf Raglaw Ffelix, cyfarchion.

27. Daliwyd y dyn hwn gan yr Iddewon, ac yr oedd ar fin cael ei ladd ganddynt, ond deuthum ar eu gwarthaf gyda'm milwyr ac achubais ef, wedi imi ddeall ei fod yn ddinesydd Rhufeinig.

28. Gan fy mod yn awyddus i gael gwybod pam yr oeddent yn ei gyhuddo, euthum ag ef i lawr gerbron eu Sanhedrin.

29. Cefais ei fod yn cael ei gyhuddo ynglŷn â materion dadleuol yn eu Cyfraith hwy, ond nad oedd yn wynebu cyhuddiad oedd yn haeddu marwolaeth neu garchar.

Darllenwch bennod gyflawn Actau 23