Hen Destament

Testament Newydd

Actau 23:11-28 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

11. Y noson honno, safodd yr Arglwydd yn ei ymyl a dweud, “Cod dy galon! Oherwydd fel y tystiolaethaist amdanaf fi yn Jerwsalem, felly y mae'n rhaid iti dystiolaethu yn Rhufain hefyd.”

12. Pan ddaeth yn ddydd, gwnaeth yr Iddewon gynllwyn: aethant ar eu llw i beidio â bwyta nac yfed dim nes y byddent wedi lladd Paul.

13. Yr oedd mwy na deugain wedi gwneud y cydfwriad hwn.

14. Aethant at y prif offeiriaid a'r henuriaid, a dweud, “Yr ydym wedi mynd ar ein llw mwyaf difrifol i beidio â phrofi dim bwyd nes y byddwn wedi lladd Paul.

15. Rhowch chwi, felly, ynghyd â'r Sanhedrin, rybudd yn awr i'r capten, iddo ddod ag ef i lawr atoch, ar yr esgus eich bod am ymchwilio yn fanylach i'w achos. Ac yr ydym ninnau yn barod i'w ladd ef cyn iddo gyrraedd.”

16. Ond fe glywodd mab i chwaer Paul am y cynllwyn, ac aeth i'r pencadlys, a mynd i mewn ac adrodd yr hanes wrth Paul.

17. Galwodd Paul un o'r canwriaid ato, ac meddai, “Dos â'r llanc yma at y capten; y mae ganddo rywbeth i'w ddweud wrtho.”

18. Felly cymerodd y canwriad ef, a mynd ag ef at y capten, ac meddai, “Galwodd y carcharor Paul fi, a gofyn imi ddod â'r llanc hwn atat ti, am fod ganddo rywbeth i'w ddweud wrthyt.”

19. Cymerodd y capten afael yn ei law, a mynd ag ef o'r neilltu a holi, “Beth yw'r hyn sydd gennyt i'w ddweud wrthyf?”

20. Meddai yntau, “Cytunodd yr Iddewon i ofyn i ti fynd â Paul i lawr yfory i'r Sanhedrin, ar yr esgus fod y rheini am holi yn fanylach yn ei gylch.

21. Yn awr, paid â gwrando arnynt, oherwydd y mae mwy na deugain o'u dynion yn aros i ymosod arno; y maent wedi mynd ar eu llw i beidio â bwyta nac yfed nes y byddant wedi ei ladd ef, ac y maent yn barod yn awr, yn disgwyl am dy ganiatâd di.”

22. Yna anfonodd y capten y llanc ymaith, ar ôl gorchymyn iddo, “Paid â dweud wrth neb dy fod wedi rhoi gwybod imi am hyn.”

23. Yna galwodd ato ddau ganwriad arbennig, a dweud wrthynt, “Paratowch ddau gant o filwyr i fynd i Gesarea, a saith deg o wŷr meirch a dau gan picellwr, erbyn naw o'r gloch y nos.

24. Darparwch hefyd anifeiliaid, iddynt osod Paul arnynt a mynd ag ef yn ddiogel at Ffelix, y rhaglaw.”

25. Ac ysgrifennodd lythyr i'r perwyl hwn:

26. “Clawdius Lysias at yr Ardderchocaf Raglaw Ffelix, cyfarchion.

27. Daliwyd y dyn hwn gan yr Iddewon, ac yr oedd ar fin cael ei ladd ganddynt, ond deuthum ar eu gwarthaf gyda'm milwyr ac achubais ef, wedi imi ddeall ei fod yn ddinesydd Rhufeinig.

28. Gan fy mod yn awyddus i gael gwybod pam yr oeddent yn ei gyhuddo, euthum ag ef i lawr gerbron eu Sanhedrin.

Darllenwch bennod gyflawn Actau 23