4. Daethom o hyd i'r disgyblion, ac aros yno saith diwrnod; a dywedodd y rhain wrth Paul trwy'r Ysbryd am beidio â mynd ymlaen i Jerwsalem.
5. Ond pan ddaeth ein dyddiau yno i ben, ymadawsom ar ein taith, a phawb ohonynt, ynghyd â'u gwragedd a'u plant, yn ein hebrwng i'r tu allan i'r ddinas. Aethom ar ein gliniau ar y traeth, a gweddïo,
6. a ffarwelio â'n gilydd. Yna dringasom ar fwrdd y llong, a dychwelsant hwythau adref.
7. Daeth ein mordaith o Tyrus i ben wrth inni gyrraedd Ptolemais. Cyfarchasom y credinwyr yno ac aros un diwrnod gyda hwy.
8. Trannoeth, aethom ymaith a dod i Gesarea; ac aethom i mewn i dŷ Philip yr efengylwr, un o'r Saith, ac aros gydag ef.
9. Yr oedd gan hwn bedair merch ddibriod, a dawn proffwydo ganddynt.
10. Yn ystod y dyddiau lawer y buom gydag ef, daeth dyn i lawr o Jwdea, proffwyd o'r enw Agabus.
11. Daeth atom, a chymryd gwregys Paul, a rhwymo'i draed a'i ddwylo ei hun, a dweud, “Dyma eiriau'r Ysbryd Glân: ‘Y gŵr biau'r gwregys hwn, fel hyn y rhwyma'r Iddewon ef yn Jerwsalem, a'i draddodi i ddwylo'r Cenhedloedd.’ ”
12. Pan glywsom hyn, dechreusom ni a phobl y lle erfyn arno i beidio â mynd i fyny i Jerwsalem.
13. Yna atebodd Paul, “Beth yr ydych yn ei wneud, yn wylo ac yn torri fy nghalon? Oherwydd yr wyf fi'n barod, nid yn unig i gael fy rhwymo, ond hyd yn oed i farw, yn Jerwsalem, er mwyn enw'r Arglwydd Iesu.”
14. A chan nad oedd modd cael perswâd arno, tawsom gan ddweud, “Gwneler ewyllys yr Arglwydd.”
15. Wedi'r dyddiau hyn, gwnaethom ein paratoadau a chychwyn i fyny i Jerwsalem;
16. ac fe ddaeth rhai o'r disgyblion o Gesarea gyda ni, gan ddod â ni i dŷ'r gŵr yr oeddem i letya gydag ef, Mnason o Cyprus, un oedd wedi bod yn ddisgybl o'r dechrau.
17. Wedi inni gyrraedd Jerwsalem, cawsom groeso llawen gan y credinwyr.