Hen Destament

Testament Newydd

Actau 21:18-28 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

18. A thrannoeth, aeth Paul gyda ni at Iago, ac yr oedd yr henuriaid i gyd yno.

19. Ar ôl eu cyfarch, adroddodd yn fanwl y pethau yr oedd Duw wedi eu gwneud ymhlith y Cenhedloedd trwy ei weinidogaeth.

20. O glywed hyn, rhoesant ogoniant i Dduw. Yna meddent wrth Paul, “Yr wyt yn gweld, frawd, fod credinwyr dirifedi ymhlith yr Iddewon, ac y maent i gyd yn selog dros y Gyfraith;

21. a chawsant wybodaeth amdanat ti, dy fod yn dysgu'r holl Iddewon sydd ymysg y Cenhedloedd i wrthgilio oddi wrth Moses, gan ddweud wrthynt am beidio ag enwaedu ar eu plant na byw yn ôl ein defodau.

22. Beth sydd i'w wneud, felly? Y maent yn siŵr o glywed dy fod wedi dod.

23. Felly, gwna'r hyn a ddywedwn wrthyt. Y mae gennym bedwar dyn sydd dan lw.

24. Cymer y rhain, a dos di gyda hwy trwy ddefod y pureiddio, a thâl y gost drostynt, iddynt gael eillio eu pennau; yna fe wêl pawb nad oes dim yn y wybodaeth a gawsant amdanat, ond dy fod tithau hefyd yn dilyn ac yn cadw'r Gyfraith.

25. Ond am y credinwyr o blith y Cenhedloedd, yr ydym ni wedi ysgrifennu atynt a rhoi ein dyfarniad, eu bod i ymgadw rhag bwyta yr hyn a aberthwyd i eilunod, neu waed, neu'r hyn a dagwyd, a rhag anfoesoldeb rhywiol.”

26. Yna fe gymerodd Paul y gwŷr, a thrannoeth aeth trwy ddefod y pureiddio gyda hwy, ac aeth i mewn i'r deml, i roi rhybudd pa bryd y cyflawnid dyddiau'r pureiddio ac yr offrymid yr offrwm dros bob un ohonynt.

27. Ond pan oedd y saith diwrnod bron ar ben, gwelodd yr Iddewon o Asia ef yn y deml. Codasant gynnwrf yn yr holl dyrfa, a chymryd gafael ynddo,

28. gan weiddi, “Chwi Israeliaid, helpwch ni. Hwn yw'r dyn sy'n dysgu pawb ym mhob man yn erbyn ein pobl a'r Gyfraith a'r lle hwn, ac sydd hefyd wedi dod â Groegiaid i mewn i'r deml, a halogi'r lle sanctaidd hwn.”

Darllenwch bennod gyflawn Actau 21