1. Wedi i ni ymadael â hwy a chodi angor, daethom ar union hynt i Cos, a thrannoeth i Rhodos, ac oddi yno i Patara.
2. Cawsom long yn croesi i Phoenicia, ac aethom arni a hwylio ymaith.
3. Wedi dod i olwg Cyprus, a'i gadael ar y chwith, hwyliasom ymlaen i Syria, a glanio yn Tyrus, oherwydd yno yr oedd y llong yn dadlwytho.
4. Daethom o hyd i'r disgyblion, ac aros yno saith diwrnod; a dywedodd y rhain wrth Paul trwy'r Ysbryd am beidio â mynd ymlaen i Jerwsalem.
5. Ond pan ddaeth ein dyddiau yno i ben, ymadawsom ar ein taith, a phawb ohonynt, ynghyd â'u gwragedd a'u plant, yn ein hebrwng i'r tu allan i'r ddinas. Aethom ar ein gliniau ar y traeth, a gweddïo,
6. a ffarwelio â'n gilydd. Yna dringasom ar fwrdd y llong, a dychwelsant hwythau adref.
7. Daeth ein mordaith o Tyrus i ben wrth inni gyrraedd Ptolemais. Cyfarchasom y credinwyr yno ac aros un diwrnod gyda hwy.
8. Trannoeth, aethom ymaith a dod i Gesarea; ac aethom i mewn i dŷ Philip yr efengylwr, un o'r Saith, ac aros gydag ef.
9. Yr oedd gan hwn bedair merch ddibriod, a dawn proffwydo ganddynt.
10. Yn ystod y dyddiau lawer y buom gydag ef, daeth dyn i lawr o Jwdea, proffwyd o'r enw Agabus.