Hen Destament

Testament Newydd

Actau 20:34-38 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

34. Fe wyddoch eich hunain mai'r dwylo hyn a fu'n gweini i'm hanghenion i ac eiddo'r rhai oedd gyda mi.

35. Ym mhopeth, dangosais i chwi mai wrth lafurio felly y mae'n rhaid cynorthwyo'r rhai gwan, a dwyn ar gof y geiriau a lefarodd yr Arglwydd Iesu ei hun: ‘Dedwyddach yw rhoi na derbyn.’ ”

36. Wedi dweud hyn, fe benliniodd gyda hwy oll a gweddïo.

37. Torrodd pawb i wylo'n hidl, a syrthio ar wddf Paul a'i gusanu,

38. gan ofidio yn bennaf am iddo ddweud nad oeddent mwyach i weld ei wyneb. Yna aethant i'w hebrwng ef i'r llong.

Darllenwch bennod gyflawn Actau 20