1. Pan beidiodd y cynnwrf, anfonodd Paul am y disgyblion, ac wedi eu hannog, ffarweliodd â hwy ac aeth ymaith ar ei ffordd i Facedonia.
2. Wedi teithio trwy'r parthau hynny ac annog llawer ar y disgyblion yno, daeth i wlad Groeg.
3. Treuliodd dri mis yno, a phan oedd ar hwylio i Syria, gwnaeth yr Iddewon gynllwyn yn ei erbyn, a phenderfynodd ddychwelyd trwy Facedonia.
4. Ei gyd-deithwyr oedd Sopater o Berea, mab Pyrrhus, y Thesaloniaid Aristarchus a Secwndus, Gaius o Derbe, a Timotheus, a'r Asiaid Tychicus a Troffimus.
5. Yr oedd y rhain wedi mynd o'n blaen, ac yn aros amdanom yn Troas.
6. Hwyliasom ninnau, wedi dyddiau'r Bara Croyw, o Philipi, a chyrraedd atynt yn Troas ymhen pum diwrnod; ac yno y buom am saith diwrnod.
7. Ar ddydd cyntaf yr wythnos, daethom ynghyd i dorri bara. Dechreuodd Paul, a oedd i fynd ymaith drannoeth, eu hannerch, a daliodd i draethu hyd hanner nos.
8. Yr oedd llawer o lampau yn yr oruwchystafell lle'r oeddem wedi ymgynnull,
9. ac yr oedd dyn ifanc o'r enw Eutychus yn eistedd wrth y ffenestr. Yr oedd hwn yn mynd yn fwy a mwy cysglyd, wrth i Paul ddal i ymhelaethu. Pan drechwyd ef yn llwyr gan gwsg, syrthiodd o'r trydydd llawr, a chodwyd ef yn gorff marw.
10. Ond aeth Paul i lawr; syrthiodd arno a'i gofleidio, a dywedodd, “Peidiwch â chynhyrfu; y mae bywyd ynddo.”
11. Yna aeth i fyny, a thorri'r bara a bwyta. Yna, wedi ymddiddan am amser hir hyd doriad dydd, aeth ymaith.
12. Ond aethant â'r llanc adref yn fyw, ac fe'u calonogwyd yn anghyffredin.
13. Aethom ninnau o flaen Paul i'r llong, a hwylio i gyfeiriad Asos, gan fwriadu ei gymryd i'r llong yno; oblegid dyma'r cyfarwyddyd a roesai ef, gan fwriadu mynd ei hun dros y tir.