12. Yr oedd pawb yn synnu mewn penbleth, gan ddweud y naill wrth y llall, “Beth yw ystyr hyn?”
13. Ond yr oedd eraill yn dweud yn wawdlyd, “Wedi meddwi y maent.”
14. Safodd Pedr ynghyd â'r un ar ddeg, a chododd ei lais a'u hannerch: “Chwi Iddewon, a thrigolion Jerwsalem oll, bydded hyn yn hysbys i chwi; gwrandewch ar fy ngeiriau.
15. Nid yw'r rhain wedi meddwi, fel yr ydych chwi'n tybio, oherwydd dim ond naw o'r gloch y bore yw hi.
16. Eithr dyma'r hyn a ddywedwyd drwy'r proffwyd Joel:
17. “ ‘A hyn a fydd yn y dyddiau olaf, medd Duw:tywalltaf o'm Hysbryd ar bawb;a bydd eich meibion a'ch merched yn proffwydo;bydd eich gwŷr ifainc yn cael gweledigaethau,a'ch hynafgwyr yn gweld breuddwydion;
18. hyd yn oed ar fy nghaethweision a'm caethforynion,yn y dyddiau hynny, fe dywalltaf o'm Hysbryd,ac fe broffwydant.
19. A rhof ryfeddodau yn y nef uchodac arwyddion ar y ddaear isod,gwaed a thân a tharth mwg;
20. troir yr haul yn dywyllwch,a'r lleuad yn waed,cyn i ddydd mawr a disglair yr Arglwydd ddod;
21. a bydd pob un sy'n galw ar enw'r Arglwydd yn cael ei achub.’
22. “Bobl Israel, clywch hyn: sôn yr wyf am Iesu o Nasareth, gŵr y mae ei benodi gan Dduw wedi ei amlygu i chwi trwy wyrthiau a rhyfeddodau ac arwyddion a gyflawnodd Duw trwyddo ef yn eich mysg chwi, fel y gwyddoch chwi eich hunain.