Hen Destament

Testament Newydd

Actau 19:32-41 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

32. Yn y cyfamser, yr oedd rhai yn gweiddi un peth ac eraill beth arall, oherwydd yr oedd y cyfarfod mewn cynnwrf, ac ni wyddai'r rhan fwyaf i beth yr oeddent wedi dod ynghyd.

33. Ond tybiodd rhai o'r dyrfa mai Alexander oedd yr achos, gan i'r Iddewon ei wthio ef i'r blaen. Gwnaeth yntau arwydd â'i law, gan ddymuno ei amddiffyn ei hun gerbron y dinasyddion.

34. Ond pan ddeallwyd mai Iddew ydoedd, cododd un llef oddi wrthynt oll, a buont yn gweiddi am tua dwy awr, “Mawr yw Artemis yr Effesiaid.”

35. Ond tawelodd clerc y ddinas y dyrfa, a dweud, “Bobl Effesus, pwy sydd heb wybod fod dinas yr Effesiaid yn geidwad teml Artemis fawr, a'r maen a syrthiodd o'r nef?

36. Felly, gan na all neb wadu hyn, rhaid i chwithau fod yn dawel a pheidio â gwneud dim yn fyrbwyll.

37. Yr ydych wedi dod â'r dynion hyn gerbron, er nad ydynt yn ysbeilwyr temlau nac yn cablu ein duwies ni.

38. Gan hynny, os oes gan Demetrius a'i gyd-grefftwyr achos yn erbyn rhywun, y mae'r llysoedd barn yn cael eu cynnal ac y mae rhaglawiaid yno; gadewch i'r ddwy ochr gyhuddo ei gilydd yn ffurfiol.

39. Ond os ydych am fynd â'r peth ymhellach, mewn cyfarfod rheolaidd o'r dinasyddion y mae i gael ei benderfynu.

40. Yn wir, y mae perygl y cyhuddir ninnau o derfysg ynglŷn â'r cyfarfod heddiw, gan nad oes dim achos amdano, ac am hynny ni allwn roi cyfrif am y cynnwrf yma.”

41. Ac â'r geiriau hyn daeth â'r cyfarfod i ben.

Darllenwch bennod gyflawn Actau 19