Hen Destament

Testament Newydd

Actau 19:32-35 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

32. Yn y cyfamser, yr oedd rhai yn gweiddi un peth ac eraill beth arall, oherwydd yr oedd y cyfarfod mewn cynnwrf, ac ni wyddai'r rhan fwyaf i beth yr oeddent wedi dod ynghyd.

33. Ond tybiodd rhai o'r dyrfa mai Alexander oedd yr achos, gan i'r Iddewon ei wthio ef i'r blaen. Gwnaeth yntau arwydd â'i law, gan ddymuno ei amddiffyn ei hun gerbron y dinasyddion.

34. Ond pan ddeallwyd mai Iddew ydoedd, cododd un llef oddi wrthynt oll, a buont yn gweiddi am tua dwy awr, “Mawr yw Artemis yr Effesiaid.”

35. Ond tawelodd clerc y ddinas y dyrfa, a dweud, “Bobl Effesus, pwy sydd heb wybod fod dinas yr Effesiaid yn geidwad teml Artemis fawr, a'r maen a syrthiodd o'r nef?

Darllenwch bennod gyflawn Actau 19