Hen Destament

Testament Newydd

Actau 19:22-31 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

22. Anfonodd i Facedonia ddau o'r rhai oedd yn gweini arno, Timotheus ac Erastus, ond arhosodd ef ei hun am amser yn Asia.

23. Yn ystod y cyfnod hwnnw, bu cynnwrf nid bychan ynglŷn â'r Ffordd.

24. Yr oedd gof arian o'r enw Demetrius, un oedd yn gwneud cysegrau arian i Artemis, ac felly'n cael llawer o waith i'w grefftwyr.

25. Casglodd y rhain ynghyd, gyda'r gweithwyr o grefftau cyffelyb, a dywedodd: “Ddynion, fe wyddoch mai o'r fasnach hon y daw ein ffyniant ni.

26. Yr ydych hefyd yn gweld ac yn clywed fod y Paul yma wedi perswadio tyrfa fawr, nid yn Effesus yn unig ond drwy Asia gyfan bron, a'u camarwain drwy ddweud nad duwiau mo'r duwiau o waith llaw.

27. Yn awr, y mae perygl nid yn unig y daw anfri ar ein crefft, ond hefyd y cyfrifir teml y dduwies fawr Artemis yn ddiddim, a hyd yn oed y bydd hi, y dduwies y mae Asia gyfan a'r byd yn ei haddoli, yn cael ei hamddifadu o'i mawrhydi.”

28. Pan glywsant hyn, llanwyd hwy â dicter, a dechreusant weiddi, “Mawr yw Artemis yr Effesiaid.”

29. Llanwyd y ddinas â'u cynnwrf, a rhuthrasant yn unfryd i'r theatr, gan lusgo gyda hwy gyd-deithwyr Paul, y Macedoniaid Gaius ac Aristarchus.

30. Yr oedd Paul yn dymuno cael mynd gerbron y dinasyddion, ond ni adawai'r disgyblion iddo;

31. a hefyd anfonodd rhai o uchel-swyddogion Asia, a oedd yn gyfeillgar ag ef, neges ato i erfyn arno i beidio â mentro i'r theatr.

Darllenwch bennod gyflawn Actau 19