Hen Destament

Testament Newydd

Actau 19:16-27 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

16. Dyma'r dyn ac ynddo'r ysbryd drwg yn llamu arnynt, ac yn eu trechu i gyd, a'u maeddu nes iddynt ffoi o'r tŷ yn noeth a chlwyfedig.

17. Daeth hyn yn hysbys i'r holl Iddewon a Groegiaid oedd yn byw yn Effesus, a dychrynodd pawb; a chafodd enw'r Arglwydd Iesu ei fawrygu.

18. Daeth llawer o'r rhai oedd bellach yn gredinwyr, a chyffesu eu dewiniaeth ar goedd.

19. Casglodd llawer o'r rhai a fu'n ymarfer â swynion eu llyfrau ynghyd, a'u llosgi yng ngŵydd pawb; cyfrifwyd gwerth y rhain, a'i gael yn hanner can mil o ddarnau arian.

20. Felly, yn ôl nerth yr Arglwydd, yr oedd y gair yn cynyddu ac yn llwyddo.

21. Wedi i'r pethau hyn gael eu cwblhau, rhoddodd Paul ei fryd ar deithio trwy Facedonia ac Achaia, ac yna mynd i Jerwsalem. “Wedi imi fod yno,” meddai, “rhaid imi weld Rhufain hefyd.”

22. Anfonodd i Facedonia ddau o'r rhai oedd yn gweini arno, Timotheus ac Erastus, ond arhosodd ef ei hun am amser yn Asia.

23. Yn ystod y cyfnod hwnnw, bu cynnwrf nid bychan ynglŷn â'r Ffordd.

24. Yr oedd gof arian o'r enw Demetrius, un oedd yn gwneud cysegrau arian i Artemis, ac felly'n cael llawer o waith i'w grefftwyr.

25. Casglodd y rhain ynghyd, gyda'r gweithwyr o grefftau cyffelyb, a dywedodd: “Ddynion, fe wyddoch mai o'r fasnach hon y daw ein ffyniant ni.

26. Yr ydych hefyd yn gweld ac yn clywed fod y Paul yma wedi perswadio tyrfa fawr, nid yn Effesus yn unig ond drwy Asia gyfan bron, a'u camarwain drwy ddweud nad duwiau mo'r duwiau o waith llaw.

27. Yn awr, y mae perygl nid yn unig y daw anfri ar ein crefft, ond hefyd y cyfrifir teml y dduwies fawr Artemis yn ddiddim, a hyd yn oed y bydd hi, y dduwies y mae Asia gyfan a'r byd yn ei haddoli, yn cael ei hamddifadu o'i mawrhydi.”

Darllenwch bennod gyflawn Actau 19