1. Tra oedd Apolos yng Nghorinth, teithiodd Paul drwy'r parthau uchaf, a daeth i Effesus. Yno daeth o hyd i rai disgyblion,
2. a gofynnodd iddynt, “A dderbyniasoch yr Ysbryd Glân pan gredasoch?” Meddent hwythau wrtho, “Naddo; ni chlywsom hyd yn oed fod yna Ysbryd Glân.”
3. Dywedodd yntau, “Â pha fedydd, ynteu, y bedyddiwyd chwi?” Atebasant hwythau, “Â bedydd Ioan.”
4. Ac meddai Paul, “Bedydd edifeirwch oedd bedydd Ioan, ac fe ddywedodd wrth y bobl am gredu yn yr hwn oedd yn dod ar ei ôl ef, hynny yw, yn Iesu.”
5. Pan glywsant hyn, fe'u bedyddiwyd hwy i enw'r Arglwydd Iesu,
6. a phan roddodd Paul ei ddwylo arnynt daeth yr Ysbryd Glân arnynt, a dechreusant lefaru â thafodau a phroffwydo.
7. Yr oedd tua deuddeg ohonynt i gyd.
8. Aeth i mewn i'r synagog, ac am dri mis bu'n llefaru'n hy yno, gan ymresymu a cheisio'u hargyhoeddi ynghylch teyrnas Dduw.
9. Ond gan fod rhai yn ymgaledu ac yn gwrthod credu, ac yn difenwi'r Ffordd yng ngŵydd y gynulleidfa, ymneilltuodd oddi wrthynt gan gymryd ei ddisgyblion oddi yno, a pharhau i ymresymu bob dydd yn narlithfa Tyranus.
10. Parhaodd hyn am ddwy flynedd, nes i holl drigolion Asia, yn Iddewon a Groegiaid, glywed gair yr Arglwydd.
11. Gan mor rhyfeddol oedd y gwyrthiau yr oedd Duw'n eu gwneud trwy ddwylo Paul,
12. byddai pobl yn dod â chadachau a llieiniau oedd wedi cyffwrdd â'i groen ef, ac yn eu gosod ar y cleifion, a byddai eu clefydau yn eu gadael, a'r ysbrydion drwg yn mynd allan ohonynt.