Hen Destament

Testament Newydd

Actau 18:8-10 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

8. Credodd Crispus, arweinydd y synagog, yn yr Arglwydd, ynghyd â'i holl deulu. Ac wrth glywed, credodd llawer o'r Corinthiaid a chael eu bedyddio.

9. Dywedodd yr Arglwydd wrth Paul un noson, trwy weledigaeth, “Paid ag ofni, ond dal ati i lefaru, a phaid â thewi;

10. oherwydd yr wyf fi gyda thi, ac ni fydd i neb ymosod arnat ti i wneud niwed iti, oblegid y mae gennyf lawer o bobl yn y ddinas hon.”

Darllenwch bennod gyflawn Actau 18