Hen Destament

Testament Newydd

Actau 18:18-28 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

18. Arhosodd Paul yno eto gryn ddyddiau, ac wedi ffarwelio â'r credinwyr fe hwyliodd ymaith i Syria, a Priscila ac Acwila gydag ef. Eilliodd ei ben yn Cenchreae, am fod adduned arno.

19. Pan gyraeddasant Effesus, gadawodd hwy yno, a mynd ei hun i mewn i'r synagog ac ymresymu â'r Iddewon.

20. A phan ofynasant iddo aros am amser hwy, ni chydsyniodd.

21. Ond wedi ffarwelio gan ddweud, “Dychwelaf atoch eto, os Duw a'i myn”, hwyliodd o Effesus.

22. Wedi glanio yng Nghesarea, aeth i fyny a chyfarch yr eglwys. Yna aeth i lawr i Antiochia,

23. ac wedi treulio peth amser yno, aeth ymaith, a theithio o le i le trwy wlad Galatia a Phrygia, gan gadarnhau'r holl ddisgyblion.

24. Daeth rhyw Iddew o'r enw Apolos i Effesus. Brodor o Alexandria ydoedd, a gŵr huawdl, cadarn yn yr Ysgrythurau.

25. Yr oedd hwn wedi ei addysgu yn Ffordd yr Arglwydd, ac yn frwd ei ysbryd yr oedd yn llefaru ac yn dysgu yn fanwl y ffeithiau am Iesu, er mai am fedydd Ioan yn unig y gwyddai.

26. Dechreuodd hefyd lefaru'n hy yn y synagog, a phan glywodd Priscila ac Acwila ef, cymerasant ef atynt, ac esbonio iddo Ffordd Duw yn fanylach.

27. A chan ei fod yn dymuno mynd drosodd i Achaia, cefnogodd y credinwyr ef, ac ysgrifennu at y disgyblion, ar iddynt ei groesawu. Ac wedi iddo gyrraedd, bu'n gynhorthwy mawr i'r rhai oedd trwy ras wedi credu,

28. oherwydd yr oedd yn mynd ati'n egnïol i wrthbrofi dadleuon yr Iddewon, gan ddangos ar goedd trwy'r Ysgrythurau mai Iesu oedd y Meseia.

Darllenwch bennod gyflawn Actau 18