13. gan ddweud, “Y mae hwn yn annog pobl i addoli Duw yn groes i'r Gyfraith.”
14. Pan oedd Paul ar agor ei enau, dywedodd Galio wrth yr Iddewon, “Pe bai yn fater o drosedd neu gamwedd ysgeler, byddwn wrth reswm yn rhoi gwrandawiad i chwi, Iddewon;
15. ond gan mai dadleuon yw'r rhain ynghylch geiriau ac enwau a'ch Cyfraith arbennig chwi, cymerwch y cyfrifoldeb eich hunain. Nid oes arnaf fi eisiau bod yn farnwr ar y pethau hyn.”
16. A gyrrodd hwy allan o'r llys.
17. Yna gafaelodd pawb yn Sosthenes, arweinydd y synagog, a'i guro yng ngŵydd y llys. Ond nid oedd Galio yn poeni dim am hynny.
18. Arhosodd Paul yno eto gryn ddyddiau, ac wedi ffarwelio â'r credinwyr fe hwyliodd ymaith i Syria, a Priscila ac Acwila gydag ef. Eilliodd ei ben yn Cenchreae, am fod adduned arno.
19. Pan gyraeddasant Effesus, gadawodd hwy yno, a mynd ei hun i mewn i'r synagog ac ymresymu â'r Iddewon.
20. A phan ofynasant iddo aros am amser hwy, ni chydsyniodd.
21. Ond wedi ffarwelio gan ddweud, “Dychwelaf atoch eto, os Duw a'i myn”, hwyliodd o Effesus.
22. Wedi glanio yng Nghesarea, aeth i fyny a chyfarch yr eglwys. Yna aeth i lawr i Antiochia,
23. ac wedi treulio peth amser yno, aeth ymaith, a theithio o le i le trwy wlad Galatia a Phrygia, gan gadarnhau'r holl ddisgyblion.
24. Daeth rhyw Iddew o'r enw Apolos i Effesus. Brodor o Alexandria ydoedd, a gŵr huawdl, cadarn yn yr Ysgrythurau.