31. oblegid gosododd ddiwrnod pryd y bydd yn barnu'r byd mewn cyfiawnder, trwy ŵr a benododd, ac fe roes sicrwydd o hyn i bawb trwy ei atgyfodi ef oddi wrth y meirw.”
32. Pan glywsant am atgyfodiad y meirw, dechreuodd rhai wawdio, ond dywedodd eraill, “Cawn dy wrando ar y pwnc hwn rywdro eto.”
33. Felly aeth Paul allan o'u mysg.
34. Ond ymlynodd rhai pobl wrtho, a chredu, ac yn eu plith Dionysius, aelod o lys yr Areopagus, a gwraig o'r enw Damaris, ac eraill gyda hwy.