Hen Destament

Testament Newydd

Actau 17:22-25 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

22. Safodd Paul yng nghanol yr Areopagus, ac meddai: “Bobl Athen, yr wyf yn gweld ar bob llaw eich bod yn dra chrefyddgar.

23. Oherwydd wrth fynd o gwmpas ac edrych ar eich pethau cysegredig, cefais yn eu plith allor ac arni'n ysgrifenedig, ‘I Dduw nid adwaenir’. Yr hyn, ynteu, yr ydych chwi'n ei addoli heb ei adnabod, dyna'r hyn yr wyf fi'n ei gyhoeddi i chwi.

24. Y Duw a wnaeth y byd a phopeth sydd ynddo, nid yw ef, ac yntau'n Arglwydd nef a daear, yn preswylio mewn temlau o waith llaw.

25. Ni wasanaethir ef chwaith â dwylo dynol, fel pe bai arno angen rhywbeth, gan mai ef ei hun sy'n rhoi i bawb fywyd ac anadl a'r cwbl oll.

Darllenwch bennod gyflawn Actau 17